Llanpumsaint Logo

Pwyllgor Gweithgareddau

Mi fydd Cyfarfod Blynyddol Pwyllgor Gweithgareddau Llanpumsaint & Nebo yn cael eu gynnal ar y 29ain o Fehefin, 7:30y.h. yn neuadd y pentref.

Sefydlwyd Pwyllgor Gweithgareddau Llanpumsaint & Nebo nôl yn mis Mehefin 2006 gyda’r bwriad o godi arian tuag at bwyllgorau elusenol/gwirfoddol plwyf Llanpumsaint.

  • Cadairyddes – Sallie Webb
  • Ysgrifenyddes  – Angharad Harding (01267) 253529
  • Ysgrifenydd Cofnodion – Derick Lock
  • Trysorydd- Bob Jameson.

Mae wedi bod yn amser prysur iawn I bwyllgor gweithgareddau Llanpumsaint a Nebo gyda wythnos o weithgareddau wedi eu gynnal ym mis Mai eleni.  Dechreuodd yr wythnos gyda helfa drysor, 17 o geir wedi cefnogi y daith a’r ennillwyr oedd Eirion, Sharon, Mike a Gill.  Yn 2il daeth Dylan a Meinir Nebo.  Diolch I Mandy a Sal am drefnu y daith a pob lwc I’r ennillwyr a bydd yn trefnu y daith y flwyddyn nesaf!!!

Ar y 5ed of Fai trefnwyd ras hwyiaid a BBQ ar gae y pentref.  Gwerthwyd 1000 o hwyiaid. Diolch I Mrs Margaret Griffiths am ei rhodd caredig tuag at y noson.  Diolch I bawb wnaeth gwerthu a prynu yn ystod yr wythnosau.

Ar y 7fed o Fai wnaeth Mrs Carolyn Smethurst trefnu taith gerdded o amgylch y pentref.  wnaeth dros 15 o fobl gerdded, diolch I bawb wnaeth cefnogi.

Ar yr 8fed o Fai fel arfer trefnwyd diwrnod cymunedol y pentref.  roedd y tywydd yn ein herbyn ond fe wnaeth grwpiau cymunedol cefnogi gyda’I stondinnau.  Roedd yna amrywiaeth o stodinnau fel planhigion, gemau cacennau a llawer mwy.  Roedd yna cwis yn y neuadd gyda 10 tim yn cymeryd rhan. Yr ennillwyr eleni oedd Brian Gilham, Dylan Jones ac Alun Rees. I ddilyn y cwis cafwyd disco gan Alan Lewis lle roedd pawb o bob oedran wedi mwynhau.

Diolch I bawb wnaeth ein cefnogi, codwyd dros £1800 ac fydd yr arian yma yn cael ei rhannu I grwpiau cymuedol trwy cais.  Mi fydd hi‘n haf dawel I’r pwyllgor ond edrychwn ymlaen I gefnogi gweithgareddau eraill bydd yn cael eu gynnal yn y pentref.

Yn 2010 mae’r pwyllgor wedi cyflwyno arian tuag at y bwyllgorau canlynol:

  • Ysgol Gynradd Llanpumsaint – tuag at prynu bwrdd gwyn a siapau I rhoi o amgylch y iard
  • Eglwys y Plwyf – arian tuag at gwblhau y wal
  • Pwyllgor Lles – tuag at cynhaliaeth y cae chwarae
  • Pwyllgor Newydd (Gwybodaeth Cyfnewid Cymuned Llanpumsaint) er mwyn sefydlu’r  grwp.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, edrychwn ymlaen at rai y dyfodol.