Hanes Ardal Bronwydd
Hanes darnau o dri phlwyf wnaeth ddatblygu’n gymuned unol, a phedair ystâd a grebachodd i un. Chwaraeodd yr afon Gwili, y rheilffordd, y cwarrau cerrig a’r heol fawr ran bwysig yn y datblygiad, gyda phedwar teulu yn flaenllaw, hyd ganol yr ugeinfed ganrif. Yna o’r saithdegau ymlaen adeiladwyd llawer o dai i dreblu maint a thrawsnewid y gymuned.
O’r crefftau traddodiadol, megis y saer, y gof, y toddwyr haearn, y llosgwyr golosg, y crydd, y clocsiwr, teilwriaid, y wniadwraig, y nyddwr, y gwehydd, chwarelwyr a ffermwyr; ar wahân i’r olaf maent wedi hen ddiflannu cyn troad yr ugeinfed ganrif. Yn eu lle gwelwyd llu o gymudwyr a mwy a mwy o bobl wedi ymddeol, gydag ychwanegiadau diddorol, fel y gwerthwr hynafolion, hyfforddwraig ceffylau rasys, gwerthwr canwod, peilot awyrennau a gyrrwr rali.
O gymdeithas oedd yn dal i fod bron yn uniaith Gymraeg ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, parhaodd y diwylliant Cymreig yn gryf am dri chwarter yr ugeinfed, cyn colli tir yn y chwarter olaf.
Argraffwyd gan Wasg Gomer 2002
£10 yw pris pob llyfr ac maent ar gael oddi wrth yr awdur
Arwyn Thomas, Meysydd, Bronwydd, Caerfyrddin. Sa336jd
arwynmsdd1@btinternet.com 01267 235324