Llanpumsaint Logo

Rheilffordd Gwili

Gwili Railway website

Rheilffordd Gwili  –   150 blwydd oed yn 2010

Mae 2010 yn flwyddyn gyffrous i ni yn Rheilffordd Gwili oherwydd yn 1860, 150 o flynyddoedd yn ol fe wnaeth y rheilffordd o Gaerfyrddin gyrraedd Cynwyl Elfed. Pedair blynedd yn ddiweddarach y cyrhaeddodd y rheilffordd Llanpumsaint sef yn 1864. Fe fyddwn yn dathlu’r achlysur  yma sef penblwydd yr agoriad ar ddydd Sadwrn Medi 4 2010  ym Mronwydd ac mae’r Bwrdd Rheoli wedi penderfynnu cyflwyno cerdyn sef Cerdyn Gostyngiad  Rheilffordd Gwili ar gyfer trigolion lleol.

Fe fydd y cerdyn ar gael i drigolion Abergwili,Bronwydd,Cynwyl Elfed, Llanpumsaint a Thref Caerfyrddin.  Mae’r  cerdyn a fydd yn ddilys tan ddiwedd y flwyddyn yn costio £1 ac yn rhoi disgownt o 25% i berchen y cerdyn ac un person arall ar drennau a fydd yn ymddangos ar yr amserlen.Nid yw y cerdyn yn ddilys ar gyfer digwyddiadau pwysig sef Diwrnod allan gyda Tomos, Tren Sion Corn a thrennau bwyd.. I gael cerdyn galwch yn y swyddfa ym Mronwydd  gyda phrawf eich bod  yn  byw yn y dalgylch ac hefyd £1 ac fe gewch y cerdyn yn ddiymdroi.

Mae Rheilffordd Gwili wedi cael cefnogaeth bob amser gan gymunedau lleol fel ymweliad ysgolion, bwyd ar y tren a hefyd  a phob digwyddiad  achlysurol arall felly mae yn bwrpasol iawn  fod y cymunedau  lleol yn derbyn y cerdyn hyn.

Mae llawer o newidiadau wedi bod yn yr ardal ers i’r rheilffordd gyrraedd Llanpumsaint ac mae pobl yn aml yn anghofio fod dyfodiad y rheilffyrdd nid yn unig wedi newid yr ardal ond newid y byd. Un o gefnogwyr brwd o’r rheilffyrdd oedd  y diweddar R.S.Surtees , y person a gynlluniodd yr enwog John Jorrocks. R’oedd e yn frwd iawn am ei fod yn medru teithio  ymhell iawn ac fe ddywedodd unwaith “Nid oes yn awr rhaid i chi briodi merch eich cymydog oherwydd medrwch yn awr deithio ymhell gyda thren.” Nid ydym ni yma yn Rheilffordd Gwili yn gallu sicrhau y medrwn gael gafael mewn gwr neu wraig i chi ond da chi, cymerwch fantes o’n Cerdyn Gostyngiad. Jeremy John  Rheolwr Busnes  Rheilffordd Gwili.