Côr Llanpumsaint a’r Cylch

Côr cymysg yw Côr Llanpumsaint a’r Cylch. Ffurfiwyd y Côr yn wreiddiol ym mis Hydref 1979 gyda thua 25 o aelodau o ardal Llanpumsaint. Oddi ar hynny mae’r Côr wedi tyfu a bellach mae gennym oddeutu 60 o aelodau sy’n dod o ardal eang. Ers rhai blynyddoedd rydym wedi bod yn ymarfer bob nos Iau yn Neuadd Gymunedol Cynnwyl Elfed.