Llanpumsaint Logo

Arwyn Thomas

Cefndir Arwyn Thomas

Arwyn ThomasBrodor o’r ardal a fagwyd ar fferm Pantglas rhwng Bronwydd a Llanpumsaint ac addysgwyd yn Ysgol Llanpumsaint. Wedi graddio mewn Hanes ym Mhrifysgol Abertawe dilynodd yrfa dysgu, a phan oedd yn Ysgol Gruffydd Jones Sanclêr bu’n cynnal dosbarthiadau nos mewn hanes lleol am flynyddoedd. Wedi ymddeol ar ôl pum mlynedd ar hugain fel Prifathro Ysgol Maesyryrfa Cefneithin dychwelodd at ei hoff bwnc a chyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau.

Mae ei ddiddordebau eraill yn eang. Bu’n actio gydol ei oes ac enillodd y brif wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1979 am ei berfformiad yn “Wrth aros Godot” gyda Chwmni’r Dewin. Gwnaeth enw iddo’i hun yn y byd criced fel chwaraewr, hyfforddwr, dyfarnwr a thirmon, ac ‘roedd yn un o sylfaenwyr Clwb Criced Bronwydd. Cerddodd Glawdd Offa, llwybr arfordir Sir Benfro a thaith afon Gwy, ac mae wedi ymweld yn dramor yn eang.