Llanpumsaint Logo

Hanes Llanpumsaint

A History of Llanpumsaint - Cover

Dyma gymdeithas a ffrwydrodd i amlygrwydd ar wahanol adegau o’i hanes. Ymlwybrodd y Saint i ardal oedd yn gryf dan ddylanwad y Derwyddon i sefydlu eglwys Gristnogol yn gynnar yn y bumed ganrif. Daeth Pylla iachol y Saint yn enwog fel Lourdes Sir Gar am ganrifoedd.

Yna wedi cyfnod cymharol dawel ysgwyddwyd pethau gan Anghydffurfiaeth y Bedyddwyr a’r Methodistiaid a chynnwrf y rheilffordd yn cyrraedd. Penllanw hyn oll oedd Oes Aur yr hanner cynta’ o’r ugeinfed ganrif, gyda chrefydda, diwylliant a chymdeithasu ar ei anterth.

Cynhyrchodd Llanpumsaint mwy nai siâr o enwogion, dau aelod seneddol wedi eu magu’n lleol, dwy wraig o dalent aruthrol, a dau gymwynaswr o fri. Ychwanegwch at hyn lond col o wir gymeriadau, i gyd yn llawn haeddu cael eu cofio.

Argraffwyd gan Wasg Gomer 2004

£10 yw pris pob llyfr ac maent ar gael oddi wrth yr awdur —
Arwyn Thomas, Meysydd, Bronwydd, Caerfyrddin. Sa336jd
arwynmsdd1@btinternet.com 01267 235324